
Rhif y ddeiseb: P-06-1534
Teitl y ddeiseb: Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru.
Geiriad y ddeiseb: Yng Nghymru, mae cleifion ar hyn o bryd yn cael gofal ar drolïau neu mewn cadeiriau am oriau maith, yn aml am ddyddiau, mewn poen a dioddefaint. Mae meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd yn cael eu gorfodi i drin a gofalu am gleifion mewn coridorau, meysydd parcio, a mannau eraill lle nad yw gofal diogel ac urddasol yn bosibl a lle nad oes ganddynt offer achub bywyd wrth law.
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru ar y cyd yn canu larwm am ddiogelwch cleifion er mwyn i Lywodraeth Cymru roi diwedd ar ofal mewn coridorau.
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r BMA yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i wneud y canlynol:
1. Dechrau cofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru, gan ddechrau drwy ei wneud yn ‘ddigwyddiad byth’ i gleifion gael gofal mewn cadeiriau am fwy na 24 awr.
2. Rhoi saib ar leihau nifer y gwelyau yn ysbytai GIG Cymru. Adolygu capasiti yn genedlaethol a darparu cynllun gweithlu clir, wedi’i gostio, i sicrhau bod ysbytai a lleoliadau gofal ehangach yn gallu bodloni’r galw yn y dyfodol.
3. Buddsoddi mewn gofal yn y gymuned drwy:
• gynyddu nifer y nyrsys ardal (a nyrsys â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol) yn ôl i lefelau 2010, a’r tu hwnt i’r rheini, i fodloni’r galw.
• adfer cyfran cyllid GIG Cymru mewn practisau cyffredinol i lefelau hanesyddol, gydag uchelgais i’w chynyddu, fel ein bod yn hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o feddygon teulu fesul 1000 o bobl.
4. Rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal afiechyd. Mae angen i ofal brys ofal brys cynaliadwy gael ffocws cryf ar iechyd y boblogaeth a diagnosis cynnar er mwyn lleihau argyfyngau y gellir eu hosgoi.
Mae’r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae’r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw’r testun hwn wedi’i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn esbonio bod ‘gofal mewn coridorau‘ yn cyfeirio at gleifion sy’n aros am driniaeth, asesiad neu ofal – neu sy’n cael eu trin, eu hasesu neu’n cael gofal – mewn mannau amhriodol fel coridorau a meysydd parcio nad ydynt wedi’u dylunio at y diben hwn.
Gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru lansio’r ddeiseb hon ar y cyd ym mis Ebrill 2025 gan bwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i roi diwedd ar yr arfer o drin cleifion mewn coridorau, cadeiriau, mannau aros ac ym mhob man amhriodol arall.
Nododd erthygl BBC News ar 29 Ebrill 2025 rai o’r pryderon sy’n ymwneud â gofal mewn coridorau yng Nghymru.
Cyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru: Papur briffio i Aelodau o’r Senedd ym mis Ionawr 2025. Mae’r papur briffio yn esbonio sut olwg sydd ar ofal mewn coridorau, pam mae’n digwydd a pha gamau y mae angen eu cymryd i gael gwared arno.
Cyhoeddwyd adroddiad hefyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar 16 Ionawr 2025 yn amlinellu effaith gofal mewn coridorau ar gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ysbytai yng Nghymru a ledled y DU.
Cynhaliodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng arolwg ‘ciplun’ ar dri dyddiad ac amser gwahanol ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025 a chyflwynodd pob un o’r 12 Adran Achosion Brys yng Nghymru ganlyniadau. Datgelodd y canfyddiadau, a gyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2025, fod pob un o’r 12 Adran Achosion Brys yng Nghymru yn gweld pobl yn cael eu trin mewn coridorau neu mewn mannau aros, ac ar o leiaf un o’r tri diwrnod sampl, roedd cleifion yn cael gofal yng nghefn ambiwlansys ym mhob un ohonynt. Ar y pryd, roedd cyfanswm o 44% o gleifion mewn adrannau yn aros am wely yn yr ysbyty.
Ar wefan Cymdeithas Feddygol Prydain, nodir bod y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau cofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru oherwydd y diffyg data ar y mater hwn.
Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 20 Hydref 2025 yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo darparu gofal fel mater o drefn mewn amgylcheddau nad ydynt yn glinigol neu sy’n anaddas.
Mae’r llythyr yn nodi’r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gofal mewn coridorau. Mae hyn yn cynnwys:
§ Tasglu Trosglwyddo-45 Cenedlaethol a sefydlwyd ym mis Mehefin 2025 i helpu’r byrddau iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i weithredu gwelliannau ar draws y system;
§ Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i’r prosesau uwchgyfeirio cenedlaethol ac i gryfhau atebolrwydd drwy’r system genedlaethol ar gyfer galwadau dyddiol;
§ Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno datganiad cyhoeddus ehangach ar argaeledd a thryloywder data’r GIG;
§ Mae Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2025-28 yn gosod disgwyliadau i’r byrddau iechyd optimeiddio capasiti gwelyau a gwella llif cleifion ar draws y system; a
§ Set o 35 o gamau polisi wedi’u hadnewyddu a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024 ar gyfer Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 19 Chwefror 2025, cynhaliwyd dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru: Papur briffio i Aelodau o’r Senedd.
Mae cwestiynau ynghylch gofal mewn coridorau hefyd wedi’u codi ar achlysuron eraill yn ystod y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys ar 21 Ionawr 2025; 7 Mai 2025; 9 Gorffennaf 2025; a 1 Hydref 2025.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrthi’n cynnal ymchwiliad i ddyfodol meddygaeth deulu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ystyried cyllid ar gyfer meddygaeth deulu a heriau’r gweithlu.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.